Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio –
(a) Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3562 (Cy. 312)); a
(b) Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3355 (Cy. 294)).
Nod y Rheoliadau hyn yw galluogi Llywodraeth Cymru i gasglu ystod fwy cynhwysfawr o ddata Anghenion Dysgu Ychwanegol ar blant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysg yng Nghymru drwy ymarferion casglu data statudol addysg, sy’n caniatáu iddynt gydymffurfio â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn amlinellu'r wybodaeth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei chasglu am blant a phobl ifanc mewn ysgolion a gynhelir, neu mewn darpariaeth amgen yng Nghymru, drwy’r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, a’r cyfrifiad addysg heblaw yn yr ysgol.
Gweithdrefn
Gweithdrefn annilysu’r Senedd.
Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae paragraff 1.6 o'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau hyn yn nodi’r pwyntiau a ganlyn mewn perthynas â'r gofynion data newydd y mae’r Rheoliadau yn eu cyflwyno:
“Mae i’r gofynion data newydd y bwriedir eu cyflwyno oblygiadau o ran diogelu data, preifatrwydd, a baich gweinyddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth er mwn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Mae Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi cael ei gwblhau a bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
4 Mawrth 2026